Memorandwm Esboniadol ar gyfer Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020

 

Lluniwyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan Lywodraeth Cymru ac fe'i gosodir gerbron Senedd Cymru ar y cyd â'r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1.

 

Datganiad y Gweinidog

 

Yn fy marn i, mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020.

 

 

 

 

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog

 

11 Rhagfyr 2020

 

 

 

 


1.    Disgrifiad

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 (“y prif Reoliadau”).

 

2.    Materion o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan y weithdrefn frys a amlinellir yn adran 45R o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22) ("Deddf 1984"). Caiff y Rheoliadau eu gwneud heb fod drafft wedi'i osod gerbron y Senedd a’i gymeradwyo ganddi. Mae Gweinidogion Cymru o'r farn, oherwydd brys, ei bod yn angenrheidiol gwneud y Rheoliadau heb i ddrafft gael ei osod a'i gymeradwyo fel y gellir gweithredu mesurau iechyd y cyhoedd er mwyn ymateb yn gyflym i'r bygythiad a berir i iechyd pobl gan y coronafeirws. Mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y cyfyngiadau a'r gofynion sydd wedi'u nodi yn y Rheoliadau hyn yn angenrheidiol ac yn gymesur fel ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad presennol a achosir gan y coronafeirws.

 

Y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol

 

Er bod y diwygiadau sydd yn y Rheoliadau hyn yn parhau'n berthnasol o dan y prif Reoliadau i hawliau unigolion o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a Siarter Hawliau Sylfaenol Ewrop, mae’r Llywodraeth o’r farn bod modd eu cyfiawnhau er mwyn atal lledaenu clefydau heintus a/neu bod hawl i wneud yr ymyriad ar y sail ei fod yn ceisio cyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd. Mae’r Llywodraeth o’r farn hefyd eu bod yn gymesur. 

 

3.    Y cefndir deddfwriaethol

 

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 ("Deddf 1984"), a'r rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf honno, yn darparu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer diogelu iechyd yng Nghymru a Lloegr. Gwneir y Rheoliadau drwy arfer y pwerau yn adrannau 45B, 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf 1984. 

 

Mae Memorandwm Esboniadol i’r prif Reoliadau yn darparu rhagor o wybodaeth am y pwerau hyn.

 

4.    Diben y ddeddfwriaeth a'r effaith y bwriedir iddi ei chael

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i'r prif Reoliadau er mwyn:

·         cau pob atyniad awyr agored gan gynnwys ffeiriau ac eithrio digwyddiadau a sedd cerbyd fel sinemâu o sedd cerbyd; a

·         cau parciau trampolîn a pharciau sglefrio

 

O ystyried y dirywiad yn sefyllfa iechyd y cyhoedd a chytundeb y DU gyfan i lacio'r cyfyngiadau am gyfnod byr dros y Nadolig, y cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yw y dylid cymryd camau brys yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig er mwyn osgoi galw anghynaladwy ar y GIG ddiwedd mis Rhagfyr a mis Ionawr. Mae penderfyniad ar wahân wedi'i wneud i symud pob ysgol uwchradd i ddysgu ar-lein un wythnos cyn diwedd y tymor.

 

Er mwyn helpu ymhellach i atal cymysgu mewn mannau cyhoeddus, bydd y Rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i bob atyniad awyr agored a ffeiriau fod ar gau o ddydd Llun 14 Rhagfyr.

 

Daw'r gwelliannau hyn i rym ddechrau dydd Llun, 14 Rhagfyr 2020.

 

5.    Ymgynghori

 

O ystyried y bygythiad difrifol ac uniongyrchol sy’n codi o’r coronafeirws a’r angen am ymateb iechyd cyhoeddus brys, nid oes ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.

 

Wrth benderfynu a oedd angen y cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn, a phennu manylion y cyfyngiadau a’r gofynion hynny, rwyf i, ynghyd â Gweinidogion a swyddogion eraill Llywodraeth Cymru, wedi cynnal trafodaethau gyda sectorau a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys arweinwyr llywodraeth leol a busnesau ac undebau llafur yng Nghymru ac rydym yn parhau i wneud hynny. Yn fy natganiad i'r Aelodau ar 11 Rhagfyr, cyhoeddais fwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi diweddariad i Gynllun Rheoli Coronafeirws yr wythnos ganlynol.

 

6.    Asesiad Effaith Rheoleiddiol

 

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i gynnal mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn oherwydd bod angen eu rhoi ar waith ar frys i fynd i’r afael â’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.